Mae hwn yn wasanaeth newydd - bydd eich adborth (yn agor mewn tab newydd) yn ein helpu ni i’w wella. English

Yn ôl

Datganiad hygyrchedd ar gyfer HMCTS Access

Mae’r datganiad hwn yn berthnasol i HMCTS Access sy’n caniatáu defnyddiwr i fewngofnodi’n ddiogel i wasanaethau Sifil, Teulu a’r Tribiwnlysoedd, sydd ar gael yn https://hmcts-access.service.gov.uk. Nid yw’n cynnwys y gwasanaethau hynny y ceir mynediad atynt drwy fewngofnodi i HMCTS Access.

Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EM (GLlTEM) sy’n gyfrifol am y wefan hon. Rydym eisiau i gymaint o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon. Er enghraifft, golyga hyn y dylech allu:

Rydym hefyd wedi sicrhau ein bod wedi defnyddio iaith syml ar y wefan.

Mae gan AbilityNet gyngor ynghylch gwneud eich dyfais yn haws i’w defnyddio os oes gennych anabledd.

Pa mor hygyrch yw'r wefan hon

Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n llawn â’r Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe fersiwn 2.1 safon AA.

Nid oes unrhyw faterion hygyrchedd hysbys o fewn y gwasanaeth hwn.

Adborth a gwybodaeth gyswllt

Os ydych angen gwybodaeth sydd ar y wefan hon mewn fformat arall megis ar ffurf PDF hygyrch, print bras, fformat hawdd ei ddarllen, recordiad sain neu Braille; gallwch gysylltu â ni. Defnyddiwch y manylion ar gyfer y gwasanaeth mae arnoch angen.

Mabwysiadu

Gwasanaeth Iawndal Sifil

Divorce

Cyfraith Gyhoeddus - Teulu

Rhwymedi Ariannol

Tribiwnlys Haen Gyntaf (Digolledu am Anafiadau Troseddol)

Cyfraith Gyhoeddus - Teulu

Siambr Mewnfudo a Lloches

Hawliadau Arian Sifil Ar-lein

Profiant

Nawdd Cymdeithasol a Chynnal Plant

Byddwn yn ystyried eich cais ac yn ymateb o fewn 10 diwrnod gwaith.

Y Weithdrefn Orfodi

Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) sy’n gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Rhaglenni Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ’rheoliadau hygyrchedd’).

Os nad ydych chi’n fodlon gyda’r ffordd rydym yn ymateb i’ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS).

Cysylltu â ni dros y ffôn neu ymweld â ni’n bersonol

Rydym yn darparu gwasanaeth cyfnewid negeseuon testun ar gyfer pobl fyddar, pobl sydd â nam ar eu clyw a phobl sydd â nam ar eu lleferydd.

Mae yna ddolenni sain yn ein swyddfeydd, neu os byddwch yn cysylltu â ni cyn eich ymweliad, gallwn drefnu cyfieithydd Iaith Arwyddion Prydain (BSL) ar eich cyfer.

Gwybodaeth am sut i gysylltu â ni gan ddefnyddio’r manylion cyswllt uchod neu ddefnyddio’r adnodd Dod o Hyd i Lys neu Dribiwnlys ar GOV.UK.

Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon

Mae GLlTEM wedi ymrwymo i sicrhau bod ei wefannau yn hygyrch, a hynny yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Gyhoeddus (Gwefannau a Rhaglenni Symudol) (Rhif 2) 2018.

Statws cydymffurfiaeth

Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n llawn â’r Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe fersiwn 2.1 safon AA.

Beth rydym yn ei wneud i wella hygyrchedd

Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod ein gwasanaethau’n hygyrch i’n holl ddefnyddwyr a’u bod yn cydymffurfio â lefel AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe - WCAG 2.1.

Rydym yn cynnal profion hygyrchedd awtomataidd yn barhaus fel rhan o'n harferion datblygu. Mae hyn yn ein helpu i ddatrys problemau cyn i ni lansio tudalennau neu nodweddion newydd.

Mae'r wefan hon hefyd wedi'i phrofi gan y Ganolfan Hygyrchedd Digidol (DAC) yn erbyn safonau WCAG 2.1.

Er mwyn rhoi adolygiad mwy cywir o'r gwasanaeth, mae tîm y Cydgysylltwyr yn defnyddio dwy broses brofi wahanol.

Mae'r cyntaf yn archwiliad technegol â llaw gan ddefnyddio offer awtomataidd a'r ail dîm ymroddedig o brofion defnyddwyr sydd â phrawf anableddau gwahanol gan ddefnyddio ystod o dechnolegau addasol. Mae'r cyfuniad o adborth goddrychol gan ddefnyddwyr anabl ac archwiliadau technegol cynhwysfawr yn ein galluogi i fesur sut mae'r wefan yn perfformio'n dechnegol ac yn ymarferol, gan gynnig dimensiwn ychwanegol hanfodol i ganlyniadau ein profion na all dulliau eraill o brofi eu darparu.

Drwy ddefnyddio'r tîm profi ar y cyd â gweithdrefn awtomataidd, mae set fwy cywir o ganlyniadau ar gael.

Paratoi’r datganiad hygyrchedd hwn

Cafodd y datganiad hwn ei baratoi ar 14 Medi 2021. Cafodd ei adolygu ddiwethaf ar 31 Gorffennaf 2023.

Profwyd y wefan hon ddiwethaf ar 27 Awst 2021. Cynhaliwyd y prawf gan y Ganolfan Hygyrchedd Digidol / Digital Accessibility Centre (DAC).

Bu inni ddefnyddio’r dull hwn i benderfynu pa dudalennau i’w profi: